Chiwawas



Dewch am Glonc yn Aberdar

Ydych chi’n chwilio am rhywle lle gallwch fynd am “glonc” yn Aberdar tra bod y plant yn chwarae’n ddiogel mewn naws Cymraeg ?

Ydych chi, neu rhywun chi’n adnabod yn ystyried addysg Gymraeg i’ch plant neu eisiau gwybodaeth am eich Cylch Ti a Fi neu’ch Cylch Meithrin lleol. Croeso i chi ddod  clybiau anffurfiol newydd i rhieni ardal Rhondda Cynon Taf.  Rhedir gan Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.

Mae Clwb Cloncan yn rhedeg yn wythnosol ar hyn o bryd yng Nghanolfan yr Urdd, Stryd y Gwynt, Aberdâr sy’n cael ei chynnal rhwng 1.30 a 3.00 bob Dydd Llun

Os hoffech mwy o fanylion am eich Clwb Cloncan lleol, cysylltwch â Vicky Pugh ar 07500 878289 neu swyddfa’r fenter ar 01443 407570.


Ffair Nadolig 2008 Menter Caerffili

Christmas Fair at Caerphilly

Eisiau diwrnod allan i’r holl deulu’n rhad ac am ddim?

Dewch i Ffair Nadolig Menter Caerffili ym Maenordy Llancaiach Fawr ar y 30ain Tachwedd 2008.

Bydd yna gweithgareddau celf a chrefft i blant, dros 30 o stondinau gan fusnesau lleol, perfformiadau gan ysgolion lleol ac ymweliad gan Sion Corn!

Dyma’r manylion:

30ain Tachwedd 2008,

11yb-4yh Maenordy Llancaiach Fawr, Nelson

Mynediad am ddim

Nid oes llawer o lefydd i barcio yn Llancaiach Fawr, felly bydd Bws Wennol am ddim yn rhedeg o Somerfield, Nelson, i’r Ffair.


Gwasanaeth Cyfieithu ‘Bananas’ Woody Allen

Mae hwn yn ein atgoffa ni o gyfarfod cyhoeddus Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn Aberdar.



Mwynhau’r Haul a Llygad y Dydd

Counting Daisies at Aberdare ParkGad fi’n llonydd…

Rwy’n mwynhau gwres yr Haul

a Llygad y Dydd

ym mis Mai

ym Mharc Aberdar.

Y tu hwnt i’r waliau

clywaf Byd Dynol Aberdar

yn rasio ceir a pheiriannau

yn rhy brysur i werthfawrogi

yr hyn sydd ar gael

yn rhad ac am ddim…

yn nhawelwch y dydd.



Bwyd Almaeneg a Chymraeg

Bwyd Lidl, Gadlys, AberdarWedi gorffen siopa yn archfarnad Lidl, ym mhentref y Gadlys ger Aberdar, eisteddwn am funud fach yn y car.

Syllwn ar boster fawr a lliwgar wrth ddrws Lidl.

Ymddengys bod y poster am hysbysebu rhyw fath o special offer fel yr arferai Lidl ei wneud.

Mewn llythrennau bras, dywed y poster : R H A T A C H

Swnio’n diddorol, ond beth yn y byd yw “rhatach”… Ai dyma bwyd Almaeneg megis Sauerkraut wedi mewnforio o bell i dref Aberdar ?

Hanner awr yn diweddarach, ar ol cyrrhaedd gartref, sylweddolwn ein bod wedi cam-ddarllen poster yn y Gymraeg …


Ceredigioni

Ceredigioni yng NgheredigionCeredigioni, disgrifiad o’r proses o gofnodi Ceredigion (neu o leiaf, y pethau sy’n diddorol yng Ngheredigion) ar fap.


Pleserau Garddio #1 Gwylio Gwenyn

Gwylio y gwenyn yn dawnsio ar flodau’r saets.

640x480-beesage.jpg 640x480-beesage2.jpg


Anadl Barddoniaeth


Yng ngheiriau prosiect Casglu’r Tlysau : “Cofeb Evan a James James, awdur geiriau ac alaw anthem genedlaethol Cymru, ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Cafodd y cerfluniau eu cynllunio gan Syr William Goscombe John a’u dadorchuddio gan Arglwydd Treowen ym 1930 gerbron torf o 10,000.

Roedd Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-93) yn wehydd a gwerthwr gwlân wrth ei alwedigaeth ac hefyd yn berchen tafarn yr Ancient Druid Inn yn Argoed, Bedwellte, Sir Fynwy. Symudodd i Bontypridd pan oedd ei fab James (Iago ap Ieuan, 1833-1902) yn fachgen ifanc. Evan James a’i fab James a gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru, ‘Hen Wlad fy Nhadau’ ym 1856. Roedd Evan yn barddoni a chredir mai ef a ysgrifennodd y geiriau ac mai ei fab James a gyfansoddodd yr alaw. Cyhoeddwyd y gân yn y gyfrol ‘Gems of Welsh Melody’ (1860) a daeth yn hynod boblogaidd ymron ar unwaith. Nid yw’n sicr pryd yn union y cafodd y gân ei mabwysiadu fel anthem cenedlaethol Cymru.”


Tomen Llyfrau Mis Mehefin

Dyma tomen llyfrau mis Mehefin 2007 …

William Styron – Darkness Visible

Post-Scarcity Anarchism – Murray Bookchin

Working Terriers – J C Bristow Noble

The Traditional Working Terrier – Sean Frain

The Secret Life of Trees – Colin Tudge

The Ultimate Heresy – John Seymour

Livingston Jerky

The Working Terrier – Brian Plummer

Forests of Britain – Thomas Hinde

Rachel Carson – Silent Spring

Coalmining

Principles of Biodynamic Spray and Compost Preparations

The Long Emergency – James Howard Kunstler

Tom Sharpe – Wilt in Nowhere

The Rose Expert – Dr D G Hessayon

Conifers for your Garden

Energy Beyond Oil – Paul Mobbs

Toward an Ecological Society – Murray Bookchin

The Tibetan Book of Living and Dying

Ecologistics

The Amateur Naturalist – Gerald Durrell

The New Complete Book of Self Sufficiency – John Seymour

 

 

 

…. Coed, Cwn, Compost, Ecoleg !

 


Dannedd Diog


Mae’r dannedd yn diog yng Nghastell Newydd Emlyn. Fe welwyd y teclyn yma yn un o siopau y dref yn ddiweddar.


Dechreuwch bob blog yn Gymraeg

Bws yn teithio rhwng Aberdaron a Phwllhelli. ‘Drychwch ar yr hysbyseb… Cyngor da, ie ?

Bws Blogio


A Child’s Christmas in Aberdare

Give a child a pot of paint and let them express their ideas of Christmas

Click on the photos below for a larger photo. In the photo below there is a “Sion Corn” (Father Christmas), a “coeden nadolig” (Christmas tree), and a “baban Iesu” (Baby Jesus).

Aberdare Blog Van Gogh

Aberdare Blog Van Gogh


26th Nov 2005 – Menter Iaith’s Christmas Fair Caerphilly

Menter Iaith Sir Caerffili’s Christmas Fair

Saturday 26th Nov 2005

10.00am – 4.00pm Free parking and entry to Christmas Fair

Llancaiach Fawr near Caerphilly

This year for the first time, Menter Iaith Sir Caerffili are holding a
Christmas Fair at the beautiful location of Llancaiach Fawr manor.

Aberdare Blog - Coeden Nadolig

You’ll have an opportunity to purchase Welsh gifts and produce in a wonderful location without the hustle and bustle of the high street. The fair will be opened by Roy Noble radio presenter.

There will be a wide range of activities to keep the children busy and for good children a chance to personally hand deliver their letter to Santa.

Visitors are invited to browse around the stalls while listening to performances by local pupils and Carwyn Fowler the folk harpist. A chance to enter a free prize draw for a christmas tree.

Come along to see what delights are on offer!

Organised by Menter Iaith Sir Caerffili

Contact Telephone for Menter Iaith Caerffilli [01443] 820913