Jump to: navigation, search

Y Byd News Release 15 February 2008

The following News Release was published via a University of Wales, Aberystwyth computer network today on 15 February 2008. It was sent as an email to all subscribers on an opt-in mailing list for Y Byd.

From: neges@ybyd.com

To: neges@ybyd.com

Subject: y byd - newyddion diweddaraf

Date: Fri, 15 Feb 2008 09:59:48 -0000

Annwyl Gyfeillion,


Yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas mai dim ond £200,000 ychwanegol y flwyddyn fydd ar gael i ddatblygu'r wasg Gymraeg, ni fydd Dyddiol Cyf. yn gallu sefydlu papur dyddiol credadwy. Annhebyg iawn y bydd unrhyw un arall yn gallu gwneud ‘chwaith.


Mae ymchwil trwyadl yn dangos yr angen clir am rwng £600,000 a £1m o arian cyhoeddus yn flynyddol, rhywfaint ohono yn gallu deillio o hysbysebion y Llywodraeth, os yw menter o’r fath i lwyddo. Roedd hyn yn glir i’r Llywodraeth: dyma'r ffigurau a ddangoswyd i'r holl bleidiau cyn ac ar ôl etholiad mis Mai 2007, a dyma’r ffigyrau a ymddangosodd yn adroddiad Dr Tony Bianchi.



Cafodd y Gweinidog gyngor gwael i amddiffyn ei benderfyniad drwy ddweud ei fod yn “bosib” cynnal papur dyddiol Gwyddeleg Lá Nua ar grant blynyddol o £200,000. Ar union yr un diwrnod, cyhoeddwyd y byddai Lá Nua yn cau erbyn diwedd y mis oherwydd trafferthion ariannol.


Bydd rhaid i Lywodraeth y Cynulliad ailystyried nawr sut y mae am wireddu ei haddewid yn nogfen Cymru'n Un:


“Byddwn yn cynyddu’r cyllid a’r gefnogaeth a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg.”


Rydym fel cenedl yn haeddu papur dyddiol. Mae angen llais newyddiadurol ychwanegol ar Gymru er mwyn sicrhau plwraliaeth o fewn y cyfryngau. Am y rheswm hwn, mae Dyddiol Cyf. wedi penderfynu ystyried gwahanol fodelau o gyhoeddiad a allai cryfhau’r wasg Gymraeg yn y tymor byr.


Yn y cyfamser, yn dilyn datganiad Rhodri Glyn Thomas, mae’n flin gennym gyhoeddi bod Aled Price wedi penderfynu mai’r peth gorau iddo fe ac i’r fenter yw iddo ymddiswyddo fel Golygydd Y Byd. Diolchwn yn fawr iddo am ei holl waith a'i ymroddiad i sefydlu papur dyddiol Cymraeg.


Diolch, fel bob amser, am eich cefnogaeth werthfawr.


Cofion gorau,

Oddi wrth Tîm Y Byd.


Y Byd/Cwmni Dyddiol Cyf, Canolfan Mercator, Campws Llanbadarn,

Aberystwyth SY23 3AS; Ffôn: 01970 621998, Ffacs: 01970 621524

http://www.ybyd.com