Ceredigioni
Ceredigioni, disgrifiad o’r proses o gofnodi Ceredigion (neu o leiaf, y pethau sy’n diddorol yng Ngheredigion) ar fap.
Ceredigioni, disgrifiad o’r proses o gofnodi Ceredigion (neu o leiaf, y pethau sy’n diddorol yng Ngheredigion) ar fap.
Capel bach eithaf syml o ran bensaerniaeth yw Capel Ebeneser.
Ceir llun o du fewn Capel Ebeneser yma (fel rhan o luniau Flickr Lyn Dafis)
Adeiladwyd Capel Ebeneser ym 1848 ac fe’i ail-adeiladwyd ym 1938.
Yn o+l Gwefan Capel y Morfa, Aberystwyth (Capel Presbyteraidd)
Roedd gweithgarwch amlwg ym mhentref Penparcau mor gynnar ag 1812, pan oedd Ysgol Sul yn cael ei chynnal yng nghartref Richard Hugh. Yn 1848 codwyd capel yn gangen i’r Tabernacl, a’i alw’n Ebeneser. Wedi 90 mlynedd, ac yn wyneb twf y boblogaeth yn yr ardal, penderfynwyd codi capel newydd, ac agorwyd yr Ebeneser presennol ar 14 Mehefin 1939.
Yng ngheiriau prosiect Casglu’r Tlysau : “Cofeb Evan a James James, awdur geiriau ac alaw anthem genedlaethol Cymru, ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Cafodd y cerfluniau eu cynllunio gan Syr William Goscombe John a’u dadorchuddio gan Arglwydd Treowen ym 1930 gerbron torf o 10,000.
Roedd Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-93) yn wehydd a gwerthwr gwlân wrth ei alwedigaeth ac hefyd yn berchen tafarn yr Ancient Druid Inn yn Argoed, Bedwellte, Sir Fynwy. Symudodd i Bontypridd pan oedd ei fab James (Iago ap Ieuan, 1833-1902) yn fachgen ifanc. Evan James a’i fab James a gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru, ‘Hen Wlad fy Nhadau’ ym 1856. Roedd Evan yn barddoni a chredir mai ef a ysgrifennodd y geiriau ac mai ei fab James a gyfansoddodd yr alaw. Cyhoeddwyd y gân yn y gyfrol ‘Gems of Welsh Melody’ (1860) a daeth yn hynod boblogaidd ymron ar unwaith. Nid yw’n sicr pryd yn union y cafodd y gân ei mabwysiadu fel anthem cenedlaethol Cymru.”