Dewch am Glonc yn Aberdar

Posted on January 27th, 2009 filed in Aberdare Happenings, Aberdare Town, Cymraeg, Rhondda Cynon Taff, X Off

Ydych chi’n chwilio am rhywle lle gallwch fynd am “glonc” yn Aberdar tra bod y plant yn chwarae’n ddiogel mewn naws Cymraeg ?

Ydych chi, neu rhywun chi’n adnabod yn ystyried addysg Gymraeg i’ch plant neu eisiau gwybodaeth am eich Cylch Ti a Fi neu’ch Cylch Meithrin lleol. Croeso i chi ddod  clybiau anffurfiol newydd i rhieni ardal Rhondda Cynon Taf.  Rhedir gan Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.

Mae Clwb Cloncan yn rhedeg yn wythnosol ar hyn o bryd yng Nghanolfan yr Urdd, Stryd y Gwynt, Aberdâr sy’n cael ei chynnal rhwng 1.30 a 3.00 bob Dydd Llun

Os hoffech mwy o fanylion am eich Clwb Cloncan lleol, cysylltwch â Vicky Pugh ar 07500 878289 neu swyddfa’r fenter ar 01443 407570.




Comments are closed.

What Next ... ?


Get Aberdare Blog Newsletter ...